Mae angen eich enw a'ch cyfeiriad e-bost ar y SYG er mwyn cael eich ymateb i'r ymgynghoriad. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â'ch ymateb i'r ymgynghoriad.
Rydym yn ceisio bod mor agored â phosibl o ran ein proses gwneud penderfyniadau. Fel rhan o hyn, rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb dienw o'r ymatebion a gawn. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau na data personol eraill unrhyw ymatebydd unigol. Fodd bynnag, caiff enwau pob sefydliad a grŵp a fydd yn ymateb i'r ymgynghoriad eu cyhoeddi mewn rhestr o ymatebwyr. Ni chaiff enwau sefydliadau neu grwpiau eu cysylltu ag unrhyw sylwadau a roddir.
Dylech fod yn ymwybodol ein bod, fel awdurdod cyhoeddus, yn ddarostyngedig i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac ni allwn byth warantu'n llwyr na chaiff enwau neu ymatebion eu cyhoeddi. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.