Ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Ynglŷn â’r ymgynghoriad ar bynciau’r Cyfrifiad 2031
Mae gwybodaeth am boblogaeth Cymru a Lloegr yn hanfodol i weithrediad ein cymdeithas. Mae'n llywio penderfyniadau am wasanaethau cyhoeddus ac yn ein helpu i ddeall yr economi, iechyd y cyhoedd ac anghydraddoldeb. Gan adeiladu ar ein dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr o ymgynghoriad 2023 ar ddyfodol ystadegau am y boblogaeth a mudo, a thrwy ymgysylltu'n eang â rhanddeiliaid dros y degawd diwethaf, rydym yn eich gwahodd i ymateb i'r ymgynghoriad hwn i lywio penderfyniadau ar ba bynciau a gaiff eu cynnwys yn y cyfrifiad nesaf.
Mae'r ymgynghoriad hwn, sy'n rhedeg tan 4 Chwefror 2026, yn cynrychioli'r cam nesaf yn ein gwaith ymgysylltu parhaus â defnyddwyr ystadegau am y boblogaeth wrth i ni baratoi ar gyfer Cyfrifiad 2031. Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddwn yn parhau i geisio safbwyntiau rhanddeiliaid i gefnogi'r broses o ddatblygu cwestiynau'r cyfrifiad ac allbynnau'r cyfrifiad.
Defnyddir ymatebion i'r ymgynghoriad hwn hefyd at y diben eilaidd o lywio gwaith perthnasol arall o fewn y SYG sy'n mynd y tu hwnt i Gyfrifiad 2031. Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethu ystadegau sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol a'r broses barhaus o adolygu safonau wedi'u cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar gyfer casglu data.
Pam bod eich barn yn bwysig
Diolch am eich adborth hyd yma; rydym yn gwerthfawrogi eich barn a'ch ymgysylltiad parhaus yn fawr. Bydd eich mewnbwn parhaus yn helpu i sicrhau bod Cyfrifiad 2031 yn adlewyrchu anghenion newidiol pobl, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru a Lloegr. Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, byddwch yn helpu i lywio'r pynciau y byddwn yn eu cynnwys; fel bod y data a gesglir gennym yn cefnogi penderfyniadau gwell a chymunedau cryfach ac yn rhoi darlun cliriach o sut mae pobl yn byw ac yn gweithio.
Yr hyn rydym ni'n ei ofyn
Hoffem glywed sut rydych yn defnyddio data'r cyfrifiad a'ch gofynion ar gyfer data ar bynciau o Gyfrifiad 2031.
Ar gyfer pob un o'r 13 o grwpiau pwnc y cyfrifiad, byddwn yn holi ynghylch:
- y dibenion y byddwch yn defnyddio data'r cyfrifiad ar eu cyfer
- eich gofynion ar gyfer data Cyfrifiad 2031
- sut rydych yn defnyddio data'r cyfrifiad ar gyfer ardaloedd daearyddol bach, er mwyn deall poblogaethau bach, gwneud cymariaethau dros amser ac ar draws ardaloedd daearyddol
- sut rydych yn cymharu data'r cyfrifiad â newidynnau eraill y cyfrifiad (dadansoddiad amlamrywedd)
Gofynnir cwestiynau tebyg ar gyfer pynciau newydd a all fod yn ofynnol ar gyfer Cyfrifiad 2031.
Bydd y cwestiynau hefyd yn holi ynghylch eich gofynion ar gyfer grwpiau data (seiliau cyfrifo), sefydliadau cymunedol a safonau wedi'u cysoni. Defnyddir y wybodaeth a gesglir hefyd i lywio blaenoriaethau ar gyfer data gweinyddol a gofynion ar gyfer safonau wedi'u cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad ar bynciau hwn, rydym hefyd yn ymgynghori ar y safon wedi'i chysoni ar gyfer casglu data ar ethnigrwydd. Diben yr ymgynghoriad hwn ar ethnigrwydd yw casglu barn am opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol a all fod yn ofynnol ar gyfer y safon newydd. Disgwyliwn i'r cwestiwn perthnasol yn y cyfrifiad gyd-fynd â'r safon hon yng Nghymru a Lloegr. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen gysylltiedig yr ymgynghoriad ar gysoni'r gwaith o gasglu data ar ethnigrwydd, sy'n cau ar 4 Chwefror 2026.
Sut i ymateb
Mae'r ddogfen ymgynghori yn darparu gwybodaeth gefndirol am yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys pynciau a grwpiau pwnc rydym yn holi yn eu cylch, a beth sy'n hysbys eisoes am anghenion defnyddwyr ar gyfer pob un ohonynt. Mae hefyd yn nodi sut rydym yn gwerthuso ymatebion a ddaw i law, i gefnogi ein hargymhellion.
Rydym yn croesawu cyfraniadau gan holl ddefnyddwyr y cyfrifiad, gan gynnwys defnyddwyr profiadol data'r cyfrifiad a'r rhai sydd am ddefnyddio data'r cyfrifiad am y tro cyntaf.
Rydym yn eich annog yn gryf i ymateb drwy gwblhau'r holiadur ar-lein.
Gallwch hefyd ymateb drwy e-bost neu drwy'r post, gan ddefnyddio'r fersiynau o'r ddogfen ymgynghori a'r holiadur sydd ar gael i'w lawrlwytho.
Mae copïau ffisegol o'r ymgynghoriad a'r holiadur ar gael ar gais. Mae fersiynau print mawr hefyd ar gael. Anfonwch ymatebion drwy e-bost i: Topic.Consultation@ons.gov.uk
Anfonwch ymatebion drwy'r post i:
Census Topic Consultation, Office for National Statistics, Segensworth Road, Titchfield, Hampshire, PO15 5RR
Gellir gwneud cais am fformatau amgen o'r ymgynghoriad dros y ffôn hefyd: 01329 444972.
Fe'ch gwahoddir i ymateb erbyn y dyddiad cau, sef 4 Chwefror 2026.
Byddwn yn cyhoeddi ymateb i'r ymgynghoriad hwn tua 12 wythnos ar ôl dyddiad cau yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd a diogelu data
Rydym yn ceisio bod mor agored â phosibl wrth wneud penderfyniadau. Fel rhan o hyn, byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion a gawn. Caiff enwau sefydliadau sy'n ymateb eu cynnwys ynghyd â'u hymateb, a phan fydd ymatebwyr unigol yn rhoi caniatâd i'r SYG gyhoeddi eu henwau, caiff eu henwau eu cynnwys hefyd. Gallwch weld ein polisi preifatrwydd data.
Rhannwch eich safbwyntiau
Cynulleidfaoedd
- Ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031
Diddordebau
- Cymraeg
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook