Ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031

Yn cau 4 Chwef 2026

Cyflwyniad

Bydd yr atebion y byddwch chi'n eu rhoi yn yr ymgynghoriad ar bynciau hwn yn helpu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i feithrin dealltwriaeth o'ch anghenion fel defnyddiwr. Bydd hyn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu ystadegau am y boblogaeth a mudo yn y dyfodol, gan gynnwys Cyfrifiad 2031 yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn nodi'r hyn rydym eisoes yn ei wybod am anghenion defnyddwyr ar gyfer pob pwnc a barn gychwynnol y SYG mewn perthynas â chynnwys pynciau yng Nghyfrifiad 2031.

Wrth ateb y cwestiynau, dylech gynnwys disgrifiadau manwl sy'n egluro eich gofynion. Defnyddiwch enghreifftiau o'r byd go iawn sy'n dangos sut y byddech chi'n defnyddio'r data o Gyfrifiad 2031, a pha effaith y byddai'r gwaith hwnnw yn ei chael.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch Topic.Consultation@ons.gov.uk.