Arolwg Heintiadau COVID-19 Digidol – Adborth Defnyddwyr
Overview
Nod yr arolwg hwn yw deall eich profiad o gymryd rhan yn Arolwg Heintiadau COVID-19 a nodi meysydd posibl i'w gwella. Dylai gymryd tua 5 - 10 munud i'w gwblhau a gall unrhyw un sy'n cymryd rhan yn yr holiadur ar-lein a thros y ffôn a'r dull dychwelyd samplau drwy'r post a thrwy gludwr mewn perthynas ag Arolwg Heintiadau COVID-19 ei gwblhau ar gyfer ei gyfnod profi diweddaraf. Mae hyn yn wahanol i'r adeg pan arferai gweithwyr yr astudiaeth ymweld â'ch cartref i gwblhau'r holiadur a chasglu'r samplau. Ni fyddwch yn gallu rhoi adborth am apwyntiad wyneb yn wyneb yn yr arolwg hwn.
Gellir hefyd ei gwblhau fwy nag unwaith, os hoffech ei gwblhau eto'n ddiweddarach er mwyn adlewyrchu profiad mwy diweddar.
Nodwch fod yr arolwg hwn yn gwbl annibynnol ar Arolwg Heintiadau COVID-19, felly ni fydd eich data o'r Arolwg Heintiadau yn cael eu cysylltu â'r atebion y byddwch chi'n eu rhoi yma. Mae ymatebion i'r arolwg hwn yn ddienw, ac felly ni fydd yn bosibl tynnu ymatebion ar ôl eu cyflwyno. Os byddwch yn dewis gwneud cais am gopi pdf o'ch ymateb drwy e-bost ar ddiwedd yr arolwg, ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei storio.
Audiences
- Anyone from any background
Interests
- Health
Share
Share on Twitter Share on Facebook