Ymgynghoriad ar amseroedd cyhoeddi ystadegau economaidd sy’n sensitif i’r farchnad

Trosolwg

Rydym yn ceisio safbwyntiau a thystiolaeth ar amseroedd cyhoeddi gwahanol posibl ar gyfer ystadegau economaidd y SYG sy’n sensitif i’r farchnad. Bydd eich adborth yn helpu i lywio argymhelliad i’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Trosolwg

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn adolygu’r amseroedd cyhoeddi ar gyfer ei hystadegau economaidd sy’n sensitif i’r farchnad. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw’r trefniadau presennol yn parhau i wasanaethu budd y cyhoedd yn y ffordd orau, yn diwallu anghenion defnyddwyr ac yn cyd-fynd ag egwyddorion dibynadwyedd, ansawdd a gwerth a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Caiff y rhan fwyaf o ystadegau swyddogol eu cyhoeddi am 0930 yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ers mis Mawrth 2020, mae ystadegau economaidd y SYG sy’n sensitif i’r farchnad wedi cael eu cyhoeddi ar amser cyhoeddi amgen, sef 0700, yn dilyn cais o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a chytunwyd gan Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Roedd yr amser amgen hwn yn wreiddiol yn ymateb i'r cyfyngiadau ymarferol a'r risg cynyddol a achoswyd gan bandemig coronafeirws (COVID-19) yn cynnwys yr angen i atal sesiynau briffio diogel ‘lock-in’ ar gyfer asiantaethau newyddion achrededig. Roedd hefyd yn adlewyrchu cyfyngiadau gweithredol ar wefan y SYG ar y pryd, y byddai eu heffaith yn cael ei lleihau pe bai’r SYG yn cyhoeddi ystadegau sy’n sensitif i’r farchnad y tu allan i oriau masnachu. Ers hynny, cynhaliwyd rhaglen waith i wella perfformiad gweithredol gwefan y SYG ac i sefydlu sianel ar wahân ar gyfer darparu gwybodaeth i asiantaethau newyddion ariannol.

Ym mis Gorffennaf 2026, estynnwyd oriau masnachu ar gyfer dyfodol Sterling Overnight Index Average (SONIA) a dyfodol giltiau hirdymor a fasnachir ar ICE Futures Europe i agor am 0100 ac i gau am 2100. O ganlyniad, mae ystadegau'r SYG sy’n sensitif i’r farchnad bellach yn cael eu cyhoeddi tra bo’r contractau dyfodol perthnasol yn cael eu masnachu. Mae marchnadoedd ariannol mawr eraill y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cyfnewidfa Stoc Llundain a’r farchnad giltiau, yn agor ar ôl yr amser cyhoeddi o 0700.

Cyn y newid hwn, cynhaliodd y SYG adolygiad o’r wefan a’r gweithrediadau lledaenu gwybodaeth, a daeth i’r casgliad bod perfformiad wedi gwella’n sylweddol, gyda’r risgiau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi ystadegau sy’n sensitif i’r farchnad mewn marchnadoedd agored wedi lleihau o ganlyniad. Mae profiad yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst 2026 wedi ategu’r farn hon, gydag ychydig o gynnydd mewn traffig ar y wefan o gymharu â chyfnodau blaenorol, ond yn parhau ymhell o fewn y capasiti gweithredol.

Mae’r SYG wedi ymrwymo i adolygu'r achos dros yr amser cyhoeddi o 0700 erbyn diwedd 2026, ac i gasglu ystod eang o safbwyntiau defnyddwyr fel rhan o’r adolygiad hwnnw. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn llywio argymhelliad ynghylch amseroedd cyhoeddi ystadegau economaidd sy’n sensitif i’r farchnad yn y dyfodol, ac ynghylch a fydd y SYG yn parhau i wneud cais i’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau am amser cyhoeddi amgen (hynny yw, unrhyw amser heblaw 0930).

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio tystiolaeth am effaith gwahanol amseroedd cyhoeddi ar ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Rydym yn gofyn am safbwyntiau ynghylch yr amser cyhoeddi safonol o 0930. Fodd bynnag, gan ein bod eisoes wedi clywed yr achos dros amser cyhoeddi cynharach, rydym hefyd yn gofyn am safbwyntiau ynghylch amseroedd cyhoeddi amgen, o 0700 ac 0830. Rydym hefyd yn agored i awgrymiadau am amseroedd eraill.

Caiff ymatebion eu hystyried ochr yn ochr â ffactorau eraill, gan gynnwys ein rhwymedigaeth i sicrhau mynediad cyfartal at ddata, hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o’r ystadegau a sicrhau eu bod yn hygyrch, (gan gynnwys drwy sylw a chyrhaeddiad yn y cyfryngau) yr effaith ar weithrediad y marchnadoedd ariannol, gan gynnwys amseriad cyhoeddiadau mewn perthynas â digwyddiadau rheolaidd arwyddocaol eraill yn y farchnad, ac ystyriaethau gweithredol. Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn, rydym yn archwilio’r achos dros ailgyflwyno sesiynau briffio diogel ‘lock-in’ ar gyfer asiantaethau newyddion ariannol cyn cyhoeddi ystadegau economaidd sy’n sensitif i’r farchnad, er mwyn hwyluso cyfathrebu ar adeg eu cyhoeddi.

Dylai ymatebwyr nodi bod rhai ystadegau economaidd a gyhoeddir gan gynhyrchwyr ystadegau swyddogol eraill, ond sy’n gysylltiedig ag ystadegau’r SYG, hefyd yn cael eu cyhoeddi am 0700 ar hyn o bryd. Rydym yn cydweithio â nhw a byddwn yn rhannu ymatebion perthnasol i’r ymgynghoriad hwn â Chyllid a Thollau EF , Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru er mwyn eu galluogi i adolygu eu harferion. Byddwn hefyd yn gofyn am eu safbwyntiau fel cynhyrchwyr yr ystadegau hynny.

Manylion

Mae gennym ddiddordeb mewn deall:

  • sut rydych yn defnyddio ystadegau economaidd sy’n sensitif i’r farchnad
  • eich safbwyntiau ar opsiynau posibl ar gyfer amseroedd cyhoeddi, gan gynnwys sut mae gwahanol amseroedd cyhoeddi yn effeithio ar eich gallu i gael mynediad at yr ystadegau, eu dadansoddi neu ymateb iddynt, a’r effaith y mae’r opsiynau hyn yn ei chael ar farchnadoedd ariannol
  • unrhyw ystyriaethau eraill y dylai’r SYG eu hystyried wrth lunio argymhelliad

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich ymateb gan ddefnyddio’r ffurflen ymgynghori ar-lein.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn tystiolaeth ac enghreifftiau sy’n esbonio sut y byddai gwahanol amseroedd cyhoeddi yn effeithio ar eich defnydd o ystadegau economaidd sy’n sensitif i’r farchnad. Dylai ymatebwyr nodi mai diben yr ymgynghoriad hwn yw casglu tystiolaeth a safbwyntiau. Caiff penderfyniadau sy’n deillio o’r ymgynghoriad eu llywio gan ystyriaeth ofalus o’r holl ymatebion, ochr yn ochr â’r sylfaen dystiolaeth ehangach ac ystyriaethau perthnasol, er mwyn sicrhau eu bod yn gymesur, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gwasanaethu budd y cyhoedd yn y ffordd orau.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am wyth wythnos, ac yn cau ar ddydd Gwener 30 Hydref 2026.

Cyfrinachedd a diogelu data

Ein nod yw bod mor agored â phosibl yn ein prosesau. Fel rhan o hyn, bydd defnyddwyr cyhoeddiadau ystadegau economaidd gan lywodraethau datganoledig yn cael yr opsiwn i ganiatáu i’w hymatebion gael eu rhannu â’r llywodraethau hynny. Bydd yr opsiwn hwn wedi’i nodi’n glir yn yr arolwg. Os rhoddir caniatâd, caiff enwau sefydliadau sy’n ymateb eu cynnwys gyda’u hymatebion, ac ni chaiff enwau ymatebwyr unigol eu cynnwys gyda’u hymatebion. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein polisi preifatrwydd data.

 

Yn cau 30 Hyd 2026

Wedi agor 4 Medi 2026

Cynulleidfaoedd

  • Academics
  • Analysts
  • Businesses
  • Charities
  • Economists
  • Government
  • Health professionals
  • Local government
  • Operational managers
  • Police
  • Policy managers
  • Politicians
  • Researchers
  • Statisticians
  • Think tanks

Diddordebau

  • Cymraeg