Datganiad preifatrwydd
Datganiad preifatrwydd
Deddfwriaeth diogelu data
Mae Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018 gyda'i gilydd yn pennu sut, pryd a pham y gall unrhyw sefydliad brosesu data personol. Data personol yw unrhyw wybodaeth y gellir eu defnyddio i adnabod unigolyn byw. Mae'r cyfreithiau hyn yn bodoli er mwyn sicrhau y caiff eich data eu rheoli'n ddiogel a'u defnyddio'n gyfrifol. Maent hefyd yn rhoi hawliau penodol i chi ynglŷn â'ch data ac yn rhoi cyfrifoldeb arnom ni, fel defnyddiwr data personol, i roi gwybodaeth benodol i chi.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth a gawn yn uniongyrchol gan unigolion ac mewn swmp gan sefydliadau eraill, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut y defnyddir eich data personol, cysylltwch ag external.affairs@ons.gov.uk.
Pwy yw'r rheolydd data a beth yw ei fanylion cyswllt?
Y rheolydd data yw'r person neu'r sefydliad sy'n penderfynu pa ddata personol a gaiff eu prosesu ac at ba ddiben. Ar gyfer y mwyafrif helaeth o'n gwaith, y SYG yw'r rheolydd sy'n gwneud y penderfyniadau hynny. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, rydym yn darparu gwasanaethau ystadegol i sefydliadau eraill neu adrannau eraill y llywodraeth ac yn casglu neu'n prosesu data ar eu rhan. Pryd bynnag y bydd hynny'n digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Gallwch gysylltu â'r SYG drwy e-bost neu drwy'r post:
Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid
Ystafell D265
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Adeiladau'r Llywodraeth
Heol Caerdydd, Casnewydd
De Cymru
NP10 8XG
Manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data
Ein Swyddog Diogelu Data yw'r person sy'n gyfrifol am roi cyngor ac arweiniad i'r SYG ar y ffyrdd gorau y gallwn ddiogelu'r wybodaeth rydym yn ei chasglu a'i defnyddio, ac mae'n rhan o'r holl benderfyniadau mawr a wnawn mewn perthynas â data personol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch eich data, neu os hoffech arfer unrhyw un o'ch hawliau (gweler yn ddiweddarach yn y canllawiau hyn), ewch i'r dudalen diogelu data ar wefan y SYG.
Data penodol a gesglir
Mae'r data a gesglir ar gyfer ymgyngoriadau'r SYG yn cynnwys:
- enwau unigolion, sefydliadau, swyddi, cyfeiriadau e-bost a sectorau
- sut mae unigolion a sefydliadau yn defnyddio data ac ystadegau, a'u gofynion yn y dyfodol ar gyfer y rhain
- adborth ar newidiadau arfaethedig i fethodolegau neu allbynnau ystadegol y SYG
- barn pobl am y SYG; eu boddhad cyffredinol a'u barn am ansawdd yr ystadegau, natur ddibynadwy, parodrwydd i helpu ac ymgysylltu
- cadarnhau dewis o ran cysylltu yn y dyfodol.
Caiff gwybodaeth am yr ymgynghoriad ei chasglu drwy wefan yr ymgynghoriad ac ymgysylltu â defnyddwyr ynghyd â thrwy e-bost, digwyddiadau a chyfarfodydd.
At ba ddiben y caiff eich data personol eu prosesu?
At ddiben ymgyngoriadau ac i ymgysylltu â defnyddwyr, caiff unrhyw ddata a gesglir eu defnyddio i lywio penderfyniadau'r SYG ar newidiadau mawr i'w chynhyrchion a'i gwasanaethau, ac i gasglu adborth er mwyn gwella profiadau i ddefnyddwyr. Gellir defnyddio data a gesglir hefyd i gael gwell dealltwriaeth o ddefnyddwyr a'u hanghenion, ac i lywio blaenoriaethau strategol a gwaith cynllunio busnes y SYG.
Mae gwybodaeth ar gael am sut rydym yn defnyddio data i lunio ystadegau ac i wneud gwaith ymchwil ystadegol.
Y sail gyfreithiol dros brosesu
Mae deddfwriaeth diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl waith o brosesu data personol gael ei gyflawni o dan un amod neu fwy o restr benodol o amodau.
Oni nodir fel arall, caiff holl waith prosesu ystadegol y SYG ei gyflawni o dan yr amod canlynol:
Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd.
Mae'r SYG yn gorff statudol, sy'n golygu y cawsom ein creu gan ddeddfwriaeth, sef Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 yn benodol, gyda'r nod o hyrwyddo'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol sydd o fudd i'r cyhoedd, a diogelu'r ystadegau hynny. Mae ein holl waith casglu a defnyddio data yn deillio o bwerau sydd i'w gweld yn y Ddeddf honno neu ddeddfwriaeth arall y Deyrnas Unedig. Mae rhestr lawn o'r holl ddeddfwriaeth a ddefnyddir gennym ar gael.
Mae amod ychwanegol yn ofynnol er mwyn prosesu data personol arbennig. Mae data personol arbennig yn cyfeirio at wybodaeth am eich tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol. Yr amod a ddefnyddir gan y SYG i brosesu data o'r fath yw:
Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer archifo er budd y cyhoedd, at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu at ddibenion ystadegol yn seiliedig ar gyfraith y Deyrnas Unedig.
Rhannu data ar ymatebion a gesglir i'r ymgynghoriad
Yn y SYG, rydym yn trin pob math o ddata â pharch, gan sicrhau eu bod yn parhau'n ddiogel ac yn gyfrinachol. Er mwyn cefnogi'r gwaith o gynhyrchu ystadegau ac ymchwilio, gallwn rannu gwybodaeth fel a ganlyn, lle caniateir hynny yn gyfreithlon.
- Er mwyn cefnogi tryloywder, rydym bob amser yn cyhoeddi crynodeb dienw o'r ymatebion. Er y gall adroddiadau crynodeb gynnwys sefydliadu sy'n ymateb, ni fyddant yn cysylltu sylwadau penodol â sefydliadau nac unigolion oni roddir caniatâd i hynny.
- Mewn rhai achosion, gellir cyhoeddi ymatebion llawn. Pan fydd hyn yn gymwys, bydd wedi'i nodi'n glir yn y trosolwg o'r ymgynghoriad a'r deunyddiau ategol.
- Dim ond gyda'u caniatâd y caiff enwau ymatebwyr unigol eu cyhoeddi. Nid ydym yn cyhoeddi cyfeiriadau e-bost na manylion personol eraill.
- Ar gyfer ymgyngoriadau ar y cyd, gellir rhannu data am ymatebion â'r sefydliad partner. Caiff yr ymgyngoriadau hyn eu nodi'n glir a'u brandio ar y cyd.
- Mae'r ymatebion yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, er y gall data personol fod wedi'u heithrio rhag cael eu datgelu.
Storio data am ymatebion personol i'r ymgynghoriad
Er mwyn helpu i lywio anghenion parhaus defnyddwyr a gwaith cynllunio ystadegol, gellir cadw data personol o ymatebion na chânt eu cyhoeddi am hyd at ddeg mlynedd, gyda'r broses gadw'n cael ei monitro'n rheolaidd a data personol yn cael eu dileu pan na fydd eu hangen mwyach.
Hawliau testunau data
Fel testun data (rhywun rydym yn cadw data personol amdano), mae gennych hawliau o dan gyfraith diogelu data. Os byddwch am arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data, ond dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd yn ofynnol i ni gydymffurfio os yw'r data'n cael eu cadw at ddibenion ystadegol yn unig. Nodir gofynion cydymffurfio yn Neddf Diogelu Data 2018.
- Mae gennych hawl i wneud cais am y canlynol i unrhyw reolydd sy'n dal eich data personol: i roi mynediad at y wybodaeth sydd ganddo amdanoch ac i newid unrhyw wybodaeth anghywir sydd ganddo amdanoch.
- Mae gennych hawl i wrthwynebu'r gwaith o brosesu eich data personol.
- Mae gennych yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i ofyn i unrhyw reolydd ddileu unrhyw ddata personol sydd ganddo amdanoch, rhoi'r gorau i brosesu eich data personol neu drosglwyddo unrhyw wybodaeth sydd ganddo amdanoch i reolydd arall.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a'r amgylchiadau lle y gallwch eu harfer gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Y Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw'r corff annibynnol sy'n gyfrifol am reoleiddio gwaith diogelu data yn y Deyrnas Unedig. Gall roi gwybodaeth ychwanegol i chi am ddiogelu data a'ch hawliau, a bydd yn delio ag unrhyw gwynion a all fod gennych am ein defnydd o'ch data:
0303 123 1113
casework@ico.org.uk
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Darpariaeth statudol o wybodaeth
Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn storio data ar ein tudalen polisïau data. Ceir rhagor o wybodaeth am yr arolygon penodol a gynhelir gennym ar ein tudalen gwybodaeth ar gyfer cartrefi ac unigolion.