Prosesau Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth: Ymgynghoriad ar anghenion defnyddwyr am opsiynau ymateb ychwanegol mewn safon ethnigrwydd yn y dyfodol
Cyflwyniad
Bydd yr atebion y byddwch chi'n eu rhoi yn yr ymgynghoriad hwn yn helpu Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth i ddeall eich anghenion i opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol gael eu hystyried wrth ddatblygu safon wedi'i chysoni newydd ar gyfer casglu data ar ethnigrwydd. Mae hyn yn rhan o adolygiad parhaus tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth o'r safon bresennol ar gyfer ethnigrwydd.
Wrth ateb y cwestiynau, dylech gynnwys disgrifiadau manwl sy'n egluro eich gofynion. Defnyddiwch enghreifftiau o'r byd go iawn sy'n dangos sut y byddech chi'n defnyddio'r data a gesglir drwy ychwanegu opsiynau ymateb newydd, a pha effaith y byddai'r gwaith hwnnw yn ei chael.
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen copi papur o'r ymgynghoriad hwn arnoch chi, e-bostiwch harmonisation@statistics.gov.uk.