Prosesau Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth: Ymgynghoriad ar anghenion defnyddwyr am opsiynau ymateb ychwanegol mewn safon ethnigrwydd yn y dyfodol
Adborth wedi'i ddiweddaru 9 Hyd 2026
Gofynnon ni
Cynhaliodd Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ymgynghoriad cyhoeddus a ofynnodd am eich barn am b'un a oes angen opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol ar gyfer safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd (ddim ar gael yn Gymraeg) yn y dyfodol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng 28 Hydref 2025 a 4 Chwefror 2026. Mae'n rhan o adolygiad parhaus tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth o'r safon hon. Cafodd ei gynnal ochr yn ochr ag ymgynghoriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) ar bynciau ar gyfer Cyfrifiad 2031, a ofynnodd am anghenion defnyddwyr o ran data ar grŵp ethnig ynghyd â nifer o bynciau eraill.
Gwahoddwyd ymatebwyr i'r ymgynghoriad hwn i ddarparu tystiolaeth o angen ymhlith defnyddwyr am opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol mewn safon ar gyfer ethnigrwydd yn y dyfodol.
Dywedoch chi
Yr hyn y gwnaethoch ofyn amdano
Cawsom geisiadau am dros 180 o grwpiau ethnig ychwanegol, drwy ymatebion ffurfiol i'r ymgynghoriad a dulliau ymgysylltu eraill.
Ni all dyluniad terfynol y cwestiwn gynnwys pob grŵp ethnig ychwanegol y gofynnwyd amdano.
Mae hyn am fod yn rhaid i unrhyw newidiadau gydbwyso anghenion defnyddwyr yn erbyn amrywiaeth o ystyriaethau, gan gynnwys:
-
cymhlethdod cynyddol
-
yr effeithiau ar y gallu i gymharu data dros amser
-
heriau o ran cyfuno data ac allbynnau
-
cyfyngiadau gweithredu ymarferol (fel lle cyfyngedig ar holiaduron papur)
-
y baich ar ymatebwyr
Er mwyn helpu i flaenoriaethu pa opsiynau ymateb ychwanegol y dylid eu rhoi ar waith, caiff pob grŵp ethnig y gofynnir amdano ei asesu yn erbyn ein meini prawf gwerthuso cyhoeddedig. Mae hyn yn sicrhau bod unrhyw ychwanegiadau arfaethedig yn cael eu cefnogi gan dystiolaeth gadarn o angen ymhlith defnyddwyr ac yn debygol o gynhyrchu data cywir a pherthnasol sy'n addas i ymatebwyr.
Pwy a ymatebodd
Cawsom 1,433 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Roedd y rhain gan unigolion yn bennaf (1,320), a chyflwynwyd y 113 sy'n weddill ar ran sefydliadau.
Gwnaethom ofyn i sefydliadau ddewis y sector a oedd yn berthnasol iddynt. Roeddent yn gallu dewis mwy nag un sector mewn ymateb i'r cwestiwn hwn.
Tabl 1: Nifer y sefydliadau a ddewisodd bob sector
|
Y sector elusennol neu gymunedol |
54 |
|
Llywodraeth leol neu ranbarthol |
30 |
|
Arall |
12 |
|
Academia neu ymchwil |
11 |
|
Adran o lywodraeth y Deyrnas Unedig |
4 |
|
Llywodraeth ddatganoledig |
3 |
|
Bwrdd y GIG neu sefydliad iechyd |
3 |
|
Y sector masnachol neu breifat |
2 |
|
Corff cyhoeddus anadrannol neu un o asiantaethau'r llywodraeth |
2 |
|
Newyddiaduraeth neu'r cyfryngau |
1 |
Yr ymatebion yn llawn
Rydym wedi cyhoeddi taenlen o'r holl ymatebion a gawsom (ddim ar gael yn Gymraeg) ar wefan Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth. Mae'r ymatebion a gafwyd gan sefydliadau wedi cael eu cyhoeddi ochr yn ochr ag enw'r sefydliad. Mae ymatebion gan unigolion wedi cael eu cyhoeddi’n ddienw.
Cawsom nifer o negeseuon e-bost yn darparu tystiolaeth ar gyfer yr ymgynghoriad nad oeddent yn cael eu hystyried yn ymatebion ffurfiol ond a ystyriwyd fel rhan o'r broses werthuso. Nid ydym wedi cyhoeddi'r negeseuon e-bost hyn, ond rydym yn darparu rhestr o'r holl sefydliadau ac Aelodau Seneddol a ddarparodd dystiolaeth ychwanegol yn y ffordd hon yn y daenlen o'r holl ymatebion.
Gwnaethom ni
Rydym wedi cwblhau Camau 1 a 2 o'r meini prawf gwerthuso cyhoeddedig.
Gwnaeth Cam 1 asesu'r dystiolaeth o'r angen ymhlith defnyddwyr am ddata ar y grŵp ethnig y gofynnwyd amdano o ran cryfder yr angen er mwyn monitro cydraddoldeb, datblygu polisïau, dyrannu adnoddau a darparu gwasanaethau.
Gwnaeth Cam 2 asesu ansawdd unrhyw ddata procsi posibl drwy asesu cysondeb atebion ysgrifenedig a'r defnydd o gwestiynau casglu data eraill (fel gwlad enedigol, crefydd a hunaniaeth genedlaethol).
Defnyddiwyd panel Adolygu Sgoriau'r Ymgynghoriad ar Gysoni Ethnigrwydd i sicrhau ansawdd y sgoriau a roddwyd yn ystod y gwaith o werthuso a dadansoddi'r dystiolaeth a ddarparwyd. Roedd y panel hwn yn cynnwys arbenigwyr ym maes ystadegau ethnigrwydd o bob rhan o adrannau'r llywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon.
Ar ôl cwblhau Camau 1 a 2, y grwpiau ethnig canlynol y gofynnwyd amdanynt oedd yr unig grwpiau a sgoriodd yn ddigonol yn erbyn y meini prawf gwerthuso i symud ymlaen i Gam 3:
-
Iddewig
-
Cwrdaidd
-
Lladin Americanaidd
-
Sicaidd
-
Somalïaidd
-
Wcreinaidd
-
Opsiynau ymateb ar wahân ar gyfer “Sipsi” a “Teithiwr Gwyddelig” neu “Teithiwr”
Rhestrir y grwpiau yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henwau Saesneg.
Y camau nesaf
Mae symud ymlaen i Gam 3 yn rhan bwysig o'r broses werthuso ond nid yw'n golygu y bydd y grŵp ethnig yn cael ei gynnwys yn y safon wedi'i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd.
Mae Cam 3 yn cynnwys gwaith ymchwil ac ymgysylltu ychwanegol ar dderbynioldeb y cyhoedd a disgwylir iddo fynd rhagddo yn ystod hydref 2026. Unwaith y bydd Cam 3 wedi'i gwblhau, rhoddir statws Coch, Oren neu Wyrdd i bob grŵp ethnig yn seiliedig ar ganfyddiadau'r gwaith ar dderbynioldeb y cyhoedd. Dim ond grwpiau sy'n cael statws Gwyrdd fydd yn cael eu hystyried ymhellach. Fodd bynnag, nid yw statws Gwyrdd yn gwarantu y caiff y grŵp ethnig ei gynnwys yn yr holiadur terfynol, gan y bydd angen gwerthuso pellach o hyd.
Bydd y camau gwerthuso olaf yn ystyried sut y gellid rhoi unrhyw opsiynau ymateb ychwanegol ar gyfer grŵp ethnig ar waith yn ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys ffactorau fel dyluniad y cwestiwn, lle yn yr holiadur, y baich ar ymatebwyr, ansawdd data, cymharedd a defnyddioldeb allbynnau. Bydd yr ystyriaethau hyn yn cael eu hasesu ochr yn ochr ag opsiynau ymateb newydd posibl a nodwyd drwy Write-in Review (ddim ar gael yn Gymraeg) tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
O ganlyniad, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd yr holl grwpiau sy'n symud ymlaen o'r ymgynghoriad yn ymddangos yn y rhestr derfynol o opsiynau ymateb a gaiff eu hychwanegu at y safon wedi'i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd. Mae'n bosibl hefyd y bydd rhai grwpiau a nodwyd drwy'r Write-In Review yn cael eu hychwanegu os byddant yn bodloni'r meini prawf ar gyfer eu cynnwys.
Nid oes unrhyw gynlluniau i gael gwared ar unrhyw opsiynau ymateb presennol yn unrhyw un o wledydd y Deyrnas Unedig, a bydd opsiynau ysgrifenedig ar gael o hyd.
Cyhoeddi'r safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd
Mae tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi’r safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd, gan gynnwys unrhyw opsiynau ymateb newydd, yng ngwanwyn 2027. Bydd adroddiad yn cyd-fynd â hyn a fydd yn amlinellu'r broses werthuso a'r gwaith dadansoddi ac ymchwil a wnaed i benderfynu ar yr opsiynau ymateb newydd.
Cafwyd llawer mwy o ymatebion i'r ymgynghoriad na'r nifer a gafwyd ar gyfer yr Arolwg Dilynol i Randdeiliaid ar Grwpiau Ethnig a gynhaliwyd cyn Cyfrifiad 2021. Mae'r gwaith o werthuso opsiynau ymateb posibl wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl felly.
Gwybodaeth gyswllt
Hoffem ddiolch i'r holl ymatebwyr am eu hadborth gwerthfawr, a fydd yn parhau i lywio ein gwaith yn y maes hwn.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd, cysylltwch â thîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth:
Harmonisation@statistics.gov.uk.
Dolenni cysylltiedig
Y safon wedi’i chysoni ar gyfer ethnigrwydd (ddim ar gael yn Gymraeg)
Diweddariad Ebrill 2026 ar gyfer yr Ymgynghoriad ar y safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd
Cynllun gwaith tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (ddim ar gael yn Gymraeg)
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
27 Ebrill 2026
Rydym wedi cyhoeddi diweddariad ar yr ymgynghoriad hwn ar wefan Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth:
4 Mawrth 2026
Rydym wedi cyhoeddi'r meini prawf gwerthuso ar gyfer yr ymgynghoriad hwn ar wefan Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth:
5 Chwefror 2026
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad hwn. Byddwn yn dechrau dadansoddi’r ymatebion ac yn cyhoeddi diweddariad ar yr ymgynghoriad maes o law.
5 Rhagfyr 2025
Noder: Nodwyd hepgoriad yn ein “Dogfen ymgynghori ar gysoni Ethnigrwydd” ac ar y dudalen wybodaeth hon, a oedd yn awgrymu bod yr opsiynau ymateb i’r cwestiwn ethnigrwydd ar gyfer ymatebwyr yng Nghymru yr un peth â’r rhai ar gyfer ymatebwyr yn Lloegr yn holiadur Cyfrifiad 2021, gan nodi dim ond y gwahaniaeth yn nhrefn yr opsiynau ymateb o dan y categori lefel uchel ‘Gwyn’.
Dylai’r ddogfen fod wedi nodi hefyd:
Roedd yr opsiwn ymateb lefel uchel “Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig” ar gyfer ymatebwyr yn Lloegr yn wahanol i’r opsiwn ar gyfer ymatebwyr yng Nghymru, sef “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”.
Roedd yr opsiwn ymateb lefel uchel “Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” ar gyfer ymatebwyr yn Lloegr yn wahanol i’r opsiwn ar gyfer ymatebwyr yng Nghymru, sef “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”.
Mae’r dudalen wybodaeth hon, a’r “Dogfen ymgynghori ar gysoni Ethnigrwydd” yn Gymraeg ac yn Saesneg, bellach wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r gwahaniaethau yn yr opsiynau ymateb i’r cwestiwn ethnigrwydd yng Nghymru ac yn Lloegr yng Nghyfrifiad 2021. Mae’r dogfennau bellach yn cynnwys testun yr opsiynau ymateb a ddefnyddiwyd yn Lloegr, a’r testun a ddefnyddiwyd yng Nghymru, mewn dwy restr ar wahân. Nid yw’r newid yn effeithio ar y cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn yr ymgynghoriad hwn.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn eich barn am b'un a oes angen opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol ar gyfer safon wedi'i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd. Mae'n rhan o adolygiad parhaus tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth o'r safon hon. Caiff ei gynnal ochr yn ochr ag ymgynghoriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar bynciau ar gyfer Cyfrifiad 2031, sy'n holi am anghenion defnyddwyr o ran data ar grŵp ethnig ynghyd â nifer o bynciau eraill.
Argymhellir bod casglwyr data o bob rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn defnyddio'r safon wedi'i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd, gan gynnwys timau sy'n gweithio ar y cyfrifiadau nesaf yn y Deyrnas Unedig. Disgwyliwn i sefydliadau ystadegau y Deyrnas Unedig ystyried y safon hon wrth ddatblygu eu cwestiynau. Disgwyliwn i'r cwestiwn perthnasol yn y cyfrifiad gyd-fynd â'r safon hon yng Nghymru a Lloegr. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda thimau ledled y Deyrnas Unedig er mwyn deall eu gofynion ar gyfer y safon. Yn dibynnu ar anghenion defnyddwyr ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, gellir cyflawni hyn drwy un fersiwn neu gyfres o gwestiynau wedi'u cysoni.
Adnoddau er mwyn gwella cymharedd a chydlyniaeth ystadegau yw safonau wedi'u cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Mae safonau wedi'u cysoni yn cynnwys diffiniadau, cwestiynau arolwg, dulliau cyflwyno allbynnau a awgrymir a gwybodaeth i ddefnyddwyr data. Pan fydd casglwyr data yn defnyddio safonau wedi'u cysoni, gallant gymharu data sydd wedi cael eu casglu ar draws setiau data gwahanol yn effeithiol ac yn gywir. Mae hyn yn golygu y gallant ddeall beth mae'r data hynny yn ei ddweud wrthynt, a'r hyn nad ydynt yn ei ddweud, yn haws. Mae hyn yn sicrhau bod ystadegau yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl er budd y cyhoedd.
Mae'r safon wedi'i chysoni bresennol ar gyfer ethnigrwydd yn seiliedig ar gwestiynau Cyfrifiad 2011 ledled y Deyrnas Unedig. Cafodd y cwestiynau eu hadolygu a'u haddasu fel y gellid eu defnyddio yng Nghyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr, Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban. Mae hyn yn golygu mai cwestiynau'r cyfrifiad o 2021 a 2022 yw'r ffordd fwyaf cyfredol o gasglu data am grwpiau ethnig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dechreuodd y gwaith o ddatblygu cwestiynau ar gyfer y dulliau gweithredu hyn yn 2015 ac mae'n bosibl bod anghenion defnyddwyr wedi newid ers hynny.
Tra bo’r adolygiad yn mynd rhagddo, mae’r tîm cysoni yn cynghori, ar gyfer casglu data newydd sy’n gofyn am gwestiwn am ethnigrwydd, y dylid defnyddio’r cwestiynau o’r canlynol:
- Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr (Mae’r cwestiynau’n wahanol yn Lloegr a Chymru)
- Y safon wedi’i chysoni gyfredol ar gyfer ethnigrwydd yng Ngogledd Iwerddon
- Cyfrifiad 2022 ar gyfer yr Alban
Mae’r cwestiwn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Iwerddon hefyd wedi’i archwilio er mwyn deall anghenion defnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon yn llawn.
Caiff y safon wedi'i chysoni ar gyfer Ethnigrwydd ei hargymell i gasglwyr data ynghyd â chwestiynau am hunaniaeth genedlaethol a chrefydd. Pan gaiff y tri chwestiwn eu defnyddio gyda'i gilydd, gall ymatebwyr roi manylion am eu hunaniaeth ddiwylliannol lawn yn well. Yng Ngogledd Iwerddon, yr argymhelliad yw cynnwys pum cwestiwn: Gwlad Enedigol, Hunaniaeth Genedlaethol, Grŵp Ethnig, Crefydd ac Iaith, gan ddefnyddio’r cwestiynau o Gyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer Gwlad Enedigol ac Iaith.
Opsiynau ymateb yng Nghyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr
Ar gyfer ymatebwyr yn Lloegr:
Gwyn
- Seisnig, Cymreig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig
- Gwyddelig
- Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig
- Roma
- Unrhyw gefndir Gwyn arall (nodwch)
Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
- Gwyn a Du Caribïaidd
- Gwyn a Du Affricanaidd
- Gwyn ac Asiaidd
- Unrhyw gefndir Cymysg neu Amlethnig arall (nodwch)
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
- Indiaidd
- Pacistanaidd
- Bangladeshaidd
- Tsieineaidd
- Unrhyw gefndir Asiaidd arall (nodwch)
Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd
- Caribïaidd
- Affricanaidd (nodwch)
- Unrhyw gefndir , Du Prydeinig neu Garibïaidd arall (nodwch)
Grŵp ethnig arall
- Arabaidd
- Unrhyw grŵp ethnig arall (nodwch)
Ar gyfer ymatebwyr yng Nghymru:
Gwyn
- Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig
- Gwyddelig
- Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig
- Roma
- Unrhyw gefndir Gwyn arall (nodwch)
Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
- Gwyn a Du Caribïaidd
- Gwyn a Du Affricanaidd
- Gwyn ac Asiaidd
- Unrhyw gefndir Cymysg neu Amlethnig arall (nodwch)
Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig
- Indiaidd
- Pacistanaidd
- Bangladeshaidd
- Tsieineaidd
- Unrhyw gefndir Asiaidd arall (nodwch)
Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd
- Caribïaidd
- Affricanaidd (nodwch)
- Unrhyw gefndir Du, Du Prydeinig neu Garibïaidd arall (nodwch)
Grŵp ethnig arall
- Arabaidd
- Unrhyw grŵp ethnig arall (nodwch)
Opsiynau ymateb yng Nghfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon
- Gwyn
- Teithiwr Gwyddelig
- Indiaidd
- Du Affricanaidd
- Tsieineaidd
- Roma
- Ffilipinaidd
- Du Arall
- Grŵp ethnig cymysg (nodwch)
- Unrhyw grŵp ethnig arall (nodwch)
Opsiynau ymateb yng Nghfrifiad 2022 yn yr Alban
Gwyn
- Albanaidd
- Prydeinig Arall
- Gwyddelig
- Pwylaidd
- Sipsi neu Deithiwr
- Roma
- Dyn Sioe neu Fenyw Sioe
- Grŵp ethnig Gwyn arall (nodwch)
Grwpiau Cymysg neu Amlethnig (nodwch)
Asiaidd, Asiaidd Albanaidd, neu Asiaidd Prydeinig
- Pacistanaidd, Pacistanaidd Albanaidd, neu Bacistanaidd Prydeinig
- Indiaidd, Indiaidd Albanaidd, neu Indiaidd Prydeinig
- Bangladeshaidd, Bangladeshaidd Albanaidd, neu Fangladeshaidd Prydeinig
- Tsieineaidd, Tsieineaidd Albanaidd, neu Tsieineaidd Prydeinig
- Arall (nodwch)
Affricanaidd, Affricanaidd Albanaidd neu Affricanaidd Prydeinig (nodwch)
Caribïaidd neu Ddu (nodwch)
Grŵp ethnig arall
- Arabaidd, Arabaidd Albanaidd, neu Arabaidd Prydeinig
- Arall (nodwch)
Pam bod eich barn yn bwysig
Mae Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth wedi nodi bod angen diweddaru'r safon ar gyfer data ar ethnigrwydd fel y gall ystadegau ddarparu data mwy manwl a chynhwysol, gan adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth y Deyrnas Unedig. Mae cyfran o'r gwaith hwn yn cynnwys ystyried yr opsiynau ymateb sydd ar gael ac, yn bwysig, y rhai nad ydynt ar gael, yn y safon bresennol ar gyfer ethnigrwydd. Mae hyn yn cynnwys ceisio mewnbwn gan gymunedau ac ymatebwyr a chydbwyso hyn ag anghenion defnyddwyr data er mwyn llywio'r opsiynau ymateb sydd ar gael. Byddwn yn defnyddio'r ymatebion o'r ymgynghoriad hwn i flaenoriaethu camau i ychwanegu blychau ticio sy'n diwallu'r angen mwyaf ymhlith defnyddwyr, gan gydbwyso eglurder, ansawdd data a baich derbyniol ar ymatebwyr.
Rydym yn gwahodd eich barn am y ffordd y caiff grwpiau ethnig gwahanol eu cynrychioli yn y safon bresennol, a pha anghenion sydd gennych o ran blychau ticio ychwanegol ar gyfer grwpiau ethnig.
Pwy ddylai gymryd rhan
Mae cwestiynau'r ymgynghoriad hwn wedi'u hanelu at unrhyw sefydliad neu unigolyn a hoffai wneud cais i opsiynau ymateb newydd gael eu hychwanegu at y safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd. Mae'n hanfodol bod y data rydym yn eu casglu yn diwallu anghenion ein defnyddwyr yn y ffordd orau. Hoffem glywed gennych chi i ddeall eich anghenion am ddata ar grwpiau ethnig ychwanegol, ac at ba ddiben y byddwch chi'n defnyddio'r data hyn.
Sut i ymateb
Sut i ymateb
I gyfrannu, cwblhewch yr holiadur ar-lein ar waelod y dudalen hon erbyn y dyddiad cau sef 4 Chwefror 2026. Rydym yn eich annog yn gryf i gwblhau holiadur yr ymgynghoriad ar lein. Gallwch lawrlwytho’r holiadur a’r ddogfen ymgynghori i’w hadolygu neu’i rhannu all-lein. Gallwch hefyd ddefnyddio’r lawrlwythiadau hyn i ymateb drwy e-bost neu drwy’r post os dymunwch. Gellir dod o hyd i ddolenni i lawrlwytho’r dogfennau ar y dudalen we hon, o dan y pennawd “Cysylltiedig”.
Pan fyddwch chi'n dechrau'r holiadur, atebwch bob cwestiwn a rhowch gymaint o fanylion â phosibl.
Mae copïau ffisegol o'r ddogfen ymgynghori a'r holiadur ar gael ar gais. Mae copïau print mawr hefyd ar gael.
Gellir anfon ymholiadau i harmonisation@statistics.gov.uk, neu drwy'r post i:
ONS Consultations Team
Post Room
Office for National Statistics
Segensworth Road
Fareham
PO15 5RR
Gallwch chi hefyd ffonio gwasanaethau cwsmeriaid y SYG ar 01329 444 972.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am y safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd yn fwy cyffredinol, cysylltwch â thîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn harmonisation@statistics.gov.uk.
Rhagor o fanylion am Gysoni
I ddefnyddwyr a hoffai gael rhagor o fanylion am y safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd, neu wybodaeth am unrhyw un o'n safonau eraill, byddem yn awgrymu eich bod yn edrych ar ein tudalennau gwe presennol ar gysoni.
Cyfrinachedd a diogelu data
Mae angen eich enw a'ch cyfeiriad e-bost ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) er mwyn derbyn eich ymateb. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â'ch ymateb i'r ymgynghoriad, gyda'ch caniatâd. Rydym yn ceisio bod mor agored â phosibl o ran ein proses gwneud penderfyniadau. Caiff yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad eu cyhoeddi. Caiff enwau sefydliadau sydd wedi ymateb eu cynnwys ynghyd â'u hymateb, a phan fydd unigolion yn rhoi caniatâd i'r SYG gyhoeddi eu henwau ar gyfer ymateb unigol, caiff yr enwau hyn eu cynnwys hefyd. Ni fyddwn yn cyhoeddi manylion cyswllt personol, fel cyfeiriadau e-bost.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd. Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cael ei gynnal yn unol ag egwyddorion ymgynghori'r llywodraeth. Os oes gennych unrhyw gwynion am y ffordd y mae'r ymgynghoriad hwn wedi cael ei gynnal, e-bostiwch: harmonisation@statistics.gov.uk.
Cynulleidfaoedd
- Cymraeg
Diddordebau
- Cymraeg
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook