Dechreuodd yr ymgynghoriad cyhoeddus hyn ar 29 Mehefin 2023 a daeth i ben ar 26 Hydref 2023. Rydym wrthi'n dadansoddi'r ymatebion. Byddwn yn cyhoeddi diweddariad ar yr ymgynghoriad yma erbyn 18 Ionawr 2024, a fydd yn rhoi gwybodaeth am nifer yr ymatebion a gawsom a'r dulliau rydym yn eu defnyddio yn ein gwaith dadansoddi.
Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn llywio argymhelliad i'r Llywodraeth gan Awdurdod Ystadegau'r DU, yn unol â chyngor yr Ystadegydd Gwladol. Bydd yr argymhelliad hwn yn nodi sut y dylai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) gynhyrchu ystadegau am y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr yn y dyfodol, yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr. Caiff dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ei gyhoeddi ar y cyd â'r argymhelliad.
Hoffem ddiolch i'r holl ymatebwyr am eu hadborth gwerthfawr, a fydd yn parhau i lywio ein gwaith yn y maes hwn.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein hymchwil hyd yn hyn, ewch i'n tudalen am allbynnau ymchwil gan ddefnyddio data gweinyddol.
Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Ein cynlluniau trawsnewid
Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym am glywed eich barn am ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid ein hystadegau poblogaeth a mudo. Mae'r ystadegau hyn yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys nodweddion cartrefi, cyflogaeth, iechyd, crefydd a mudo rhyngwladol.
Mae ystadegau am y boblogaeth sy’n amserol ac o ansawdd uchel yn hanfodol wrth sicrhau bod pobl yn derbyn y gwasanaethau a chefnogaeth y maent yn eu hangen o fewn cymunedau a ledled y wlad. Rydym yn ymgynghori i sicrhau bod yr ystadegau a'r dadansoddiadau rydym yn eu cynhyrchu am y boblogaeth a mudo yn parhau i ddiwallu anghenion newidiol y rhai sy'n llunio polisïau, dinasyddion a phobl eraill sy'n defnyddio'r data. Dylai ein hystadegau roi gwybodaeth reolaidd, glir, amserol a manwl am gymdeithas i chi. Rydym hefyd am wella cwmpas a chywirdeb ein hystadegau dros amser. I wneud yn siŵr ein bod yn diwallu eich anghenion, mae angen eich adborth arnom ar ein cynigion.
Mae’r ddogfen ymgynghori yn esbonio cynigion y SYG i greu system gynaliadwy ar gyfer cynhyrchu ystadegau hanfodol a chyfredol am y boblogaeth. I wneud hyn byddai'r system yn bennaf yn defnyddio data gweinyddol megis data ar drethi neu fudd-daliadau, wedi’i ategu gan ddata arolwg ac ystod ehangach o ffynonellau data. Gallai hyn wella’r data mae’r SYG yn cynhyrchu bob blwyddyn yn sylweddol, a gallai ddisodli’r ddibyniaeth bresennol ar y cyfrifiad bob deng mlynedd. Mae’r ymgynghoriad hyn yn edrych am safbwyntiau ar sut mae’r cynigion yn diwallu anghenion defnyddwyr ystadegau’r SYG o gymharu â system sy’n seiliedig ar gyfrifiad.
Darganfyddwch ragor am sut y byddem yn bwriadu darparu ystadegau am y boblogaeth yn y dyfodol trwy wylio ein fideo am y daith tuag at drawsnewid. Mae'r fideo hwn hefyd ar gael gydag Iaith Arwyddion Prydain.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Croesawn gyfraniadau gan bob defnyddiwr. Mae hyn yn cynnwys defnyddwyr profiadol ystadegau’r SYG a'r rhai sydd am ddefnyddio data’r SYG am y boblogaeth a mudo am y tro cyntaf. Rydym yn gwerthfawrogi adborth pawb.
Sut i gymryd rhan
Cyn i chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gallwch ddysgu mwy am ein cynlluniau arfaethedig yn y ddogfen ymgynghori isod. Mae hyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae’n hygyrch i’r rhai sydd yn defnyddio darllenwyr sgrin.
Pan fyddwch yn llenwi'r holiadur, dim ond yr adran gyntaf, ‘Amdanoch chi’ sy'n orfodol, mae pob adran arall yn ddewisol. Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis ar beth yr hoffech wneud sylwadau.
Gofynnwn i chi ystyried ein cynigion ac ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Bydd cael gwell dealltwriaeth o'ch anghenion a'ch blaenoriaethau yn ein helpu ni i lywio ein cynlluniau ar gyfer yr ystadegau pwysig hyn.
Gallwch gysylltu â’r SYG am gymorth neu wybodaeth bellach am yr ymgynghoriad yma drwy ebostio 2023consultation@ons.gov.uk
Diolch.
Share
Share on Twitter Share on Facebook