Deddf yr Economi Ddigidol 2017 - Ymgynghoriad ynglŷn â newidiadau arfaethedig i'r Meini Prawf Achredu ar gyfer Ymchwil
Trosolwg
Mae Adran 64 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (y Ddeddf) yn caniatáu datgelu gwybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus at ddiben cynnal ymchwil er budd y cyhoedd. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn sy'n ymwneud â phrosesu neu ddefnyddio gwybodaeth o dan y porth hwn gael ei achredu. Y Panel Achredu ar gyfer Ymchwil yw'r corff sy'n gyfrifol am oruchwylio'r broses achredu hon ar ran Awdurdod Ystadegau'r DU (yr Awdurdod), ac mae'n ofynnol iddo gyhoeddi set o feini prawf (y Meini Prawf) y mae'n rhaid i unigolion, sefydliadau a phrosiectau ymchwil eu bodloni.
Ers ei chyflwyno, mae Adran 64 o'r Ddeddf wedi bod yn llwyddiannus wrth alluogi ymchwil er budd y cyhoedd. Er enghraifft, mae'r ddeddfwriaeth hon wedi galluogi achredu mwy na 6,400 o ymchwilwyr i weithio mewn 12 o amgylcheddau prosesu achrededig ar bron i 1,300 o brosiectau achrededig. Fodd bynnag, mae'r fersiwn gyfredol o'r Meini Prawf bellach dros bum mlwydd oed, ac yn sgil y newidiadau sy'n digwydd ar draws y gymuned ymchwil, mewn cymdeithas ac ym maes technoleg, mae angen i'r Awdurdod gael sicrwydd bod yr offer a ddefnyddir i lywodraethu achrediad ymchwil yn dal i fod yn gyfredol ac yn berthnasol.
Llynedd, cynhaliodd yr Awdurdod adolygiad o'r Meini Prawf ar gyfer proseswyr, ymchwilwyr a phrosiectau ymchwil. Gwahoddodd yr adolygiad hwn randdeiliaid i roi adborth ar y Meini Prawf drwy arolygon a grwpiau ffocws. Yn dilyn yr adolygiad hwn, mae'r Awdurdod wedi diweddaru'r Meini Prawf i adlewyrchu'r adborth a gafwyd gan randdeiliaid.
Yn yr ymgynghoriad hwn, fe'ch gwahoddir i ateb pum cwestiwn ynghylch y Meini Prawf diwygiedig. Mae'r Meini Prawf diwygiedig i'w gweld isod.
Cynulleidfaoedd
- Academics
- Analysts
- Cymraeg
- Economists
- Government
- Local government
- Researchers
- Statisticians
Diddordebau
- Cymraeg
- Data
- Economy
- Formal consultations
- Statistics
- Surveys
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook