Prosesau Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth: Ymgynghoriad ar anghenion defnyddwyr am opsiynau ymateb ychwanegol mewn safon ethnigrwydd yn y dyfodol
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn eich barn am b'un a oes angen opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol ar gyfer safon wedi'i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd. Mae'n rhan o adolygiad parhaus tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth o'r safon hon. Caiff ei gynnal ochr yn ochr ag ymgynghoriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar bynciau ar gyfer Cyfrifiad 2031, sy'n holi am anghenion defnyddwyr o ran data ar grŵp ethnig ynghyd â nifer o bynciau eraill.
Argymhellir bod casglwyr data o bob rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn defnyddio'r safon wedi'i chysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd, gan gynnwys timau sy'n gweithio ar y cyfrifiadau nesaf yn y Deyrnas Unedig. Disgwyliwn i sefydliadau ystadegau y Deyrnas Unedig ystyried y safon hon wrth ddatblygu eu cwestiynau. Disgwyliwn i'r cwestiwn perthnasol yn y cyfrifiad gyd-fynd â'r safon hon yng Nghymru a Lloegr. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda thimau ledled y Deyrnas Unedig er mwyn deall eu gofynion ar gyfer y safon. Yn dibynnu ar anghenion defnyddwyr ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig, gellir cyflawni hyn drwy un fersiwn neu gyfres o gwestiynau wedi'u cysoni.
Adnoddau er mwyn gwella cymharedd a chydlyniaeth ystadegau yw safonau wedi'u cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Mae safonau wedi'u cysoni yn cynnwys diffiniadau, cwestiynau arolwg, dulliau cyflwyno allbynnau a awgrymir a gwybodaeth i ddefnyddwyr data. Pan fydd casglwyr data yn defnyddio safonau wedi'u cysoni, gallant gymharu data sydd wedi cael eu casglu ar draws setiau data gwahanol yn effeithiol ac yn gywir. Mae hyn yn golygu y gallant ddeall beth mae'r data hynny yn ei ddweud wrthynt, a'r hyn nad ydynt yn ei ddweud, yn haws. Mae hyn yn sicrhau bod ystadegau yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl er budd y cyhoedd.
Mae'r safon wedi'i chysoni bresennol ar gyfer ethnigrwydd yn seiliedig ar gwestiynau Cyfrifiad 2011 ledled y Deyrnas Unedig. Cafodd y cwestiynau eu hadolygu a'u haddasu fel y gellid eu defnyddio yng Nghyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr, Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban. Mae hyn yn golygu mai cwestiynau'r cyfrifiad o 2021 a 2022 yw'r ffordd fwyaf cyfredol o gasglu data am grwpiau ethnig ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dechreuodd y gwaith o ddatblygu cwestiynau ar gyfer y dulliau gweithredu hyn yn 2015 ac mae'n bosibl bod anghenion defnyddwyr wedi newid ers hynny.
Tra bo’r adolygiad yn mynd rhagddo, mae’r tîm cysoni yn cynghori, ar gyfer casglu data newydd sy’n gofyn am gwestiwn am ethnigrwydd, y dylid defnyddio’r cwestiynau o’r canlynol:
- Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr
- Y safon wedi’i chysoni gyfredol ar gyfer ethnigrwydd yng Ngogledd Iwerddon
- Cyfrifiad 2022 ar gyfer yr Alban
Mae’r cwestiwn a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021 ar gyfer Gogledd Iwerddon hefyd wedi’i archwilio er mwyn deall anghenion defnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon yn llawn.
Caiff y safon wedi'i chysoni ar gyfer Ethnigrwydd ei hargymell i gasglwyr data ynghyd â chwestiynau am hunaniaeth genedlaethol a chrefydd. Pan gaiff y tri chwestiwn eu defnyddio gyda'i gilydd, gall ymatebwyr roi manylion am eu hunaniaeth ddiwylliannol lawn yn well. Yng Ngogledd Iwerddon, yr argymhelliad yw cynnwys pum cwestiwn: Gwlad Enedigol, Hunaniaeth Genedlaethol, Grŵp Ethnig, Crefydd ac Iaith, gan ddefnyddio’r cwestiynau o Gyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer Gwlad Enedigol ac Iaith.
Opsiynau ymateb yng Nghyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr
Gwyn
- Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig
- Gwyddelig
- Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig
- Roma
- Unrhyw gefndir Gwyn arall (nodwch)
Noder, yng Nghymru yn unig, yn y blwch ticio cyntaf, mae “Cymreig” gyntaf, "Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig", ond yn Lloegr, mae "English" gyntaf.
Grwpiau Cymysg neu Amlethnig
- Gwyn a Du Caribïaidd
- Gwyn a Du Affricanaidd
- Gwyn ac Asiaidd
- Unrhyw gefndir Cymysg neu Amlethnig arall (nodwch)
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
- Indiaidd
- Pacistanaidd
- Bangladeshaidd
- Tsieineaidd
- Unrhyw gefndir Asiaidd arall (nodwch)
Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd
- Caribïaidd
- Affricanaidd (nodwch)
- Unrhyw gefndir , Du Prydeinig neu Garibïaidd arall (nodwch)
Grŵp ethnig arall
- Arabaidd
- Unrhyw grŵp ethnig arall (nodwch)
Opsiynau ymateb yng Nghfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon
- Gwyn
- Teithiwr Gwyddelig
- Indiaidd
- Du Affricanaidd
- Tsieineaidd
- Roma
- Ffilipinaidd
- Du Arall
- Grŵp ethnig cymysg (nodwch)
- Unrhyw grŵp ethnig arall (nodwch)
Opsiynau ymateb yng Nghfrifiad 2022 yn yr Alban
Gwyn
- Albanaidd
- Prydeinig Arall
- Gwyddelig
- Pwylaidd
- Sipsi neu Deithiwr
- Roma
- Dyn Sioe neu Fenyw Sioe
- Grŵp ethnig gwyn arall (nodwch)
Grwpiau Cymysg neu Amlethnig (nodwch)
Asiaidd, Asiaidd Albanaidd, neu Asiaidd Prydeinig
- Pacistanaidd, Pacistanaidd Albanaidd, neu Bacistanaidd Prydeinig
- Indiaidd, Indiaidd Albanaidd, neu Indiaidd Prydeinig
- Bangladeshaidd, Bangladeshaidd Albanaidd, neu Fangladeshaidd Prydeinig
- Tsieineaidd, Tsieineaidd Albanaidd, neu Tsieineaidd Prydeinig
- Arall (nodwch)
Affricanaidd, Affricanaidd Albanaidd neu Affricanaidd Prydeinig (nodwch)
Caribïaidd neu Ddu (nodwch)
Grŵp ethnig arall
- Arabaidd, Arabaidd Albanaidd, neu Arabaidd Prydeinig
- Arall (nodwch)
Pam bod eich barn yn bwysig
Mae Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth wedi nodi bod angen diweddaru'r safon ar gyfer data ar ethnigrwydd fel y gall ystadegau ddarparu data mwy manwl a chynhwysol, gan adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth y Deyrnas Unedig. Mae cyfran o'r gwaith hwn yn cynnwys ystyried yr opsiynau ymateb sydd ar gael ac, yn bwysig, y rhai nad ydynt ar gael, yn y safon bresennol ar gyfer ethnigrwydd. Mae hyn yn cynnwys ceisio mewnbwn gan gymunedau ac ymatebwyr a chydbwyso hyn ag anghenion defnyddwyr data er mwyn llywio'r opsiynau ymateb sydd ar gael. Byddwn yn defnyddio'r ymatebion o'r ymgynghoriad hwn i flaenoriaethu camau i ychwanegu blychau ticio sy'n diwallu'r angen mwyaf ymhlith defnyddwyr, gan gydbwyso eglurder, ansawdd data a baich derbyniol ar ymatebwyr.
Rydym yn gwahodd eich barn am y ffordd y caiff grwpiau ethnig gwahanol eu cynrychioli yn y safon bresennol, a pha anghenion sydd gennych o ran blychau ticio ychwanegol ar gyfer grwpiau ethnig.
Pwy ddylai gymryd rhan
Mae cwestiynau'r ymgynghoriad hwn wedi'u hanelu at unrhyw sefydliad neu unigolyn a hoffai wneud cais i opsiynau ymateb newydd gael eu hychwanegu at y safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd. Mae'n hanfodol bod y data rydym yn eu casglu yn diwallu anghenion ein defnyddwyr yn y ffordd orau. Hoffem glywed gennych chi i ddeall eich anghenion am ddata ar grwpiau ethnig ychwanegol, ac at ba ddiben y byddwch chi'n defnyddio'r data hyn.
Sut i ymateb
Sut i ymateb
I gyfrannu, cwblhewch yr holiadur ar-lein ar waelod y dudalen hon erbyn y dyddiad cau sef 4 Chwefror 2026. Rydym yn eich annog yn gryf i gwblhau holiadur yr ymgynghoriad ar lein. Gallwch hefyd lawrlwytho'r holiadur ac ymateb drwy e-bost neu drwy'r post.
Pan fyddwch chi'n dechrau'r holiadur, atebwch bob cwestiwn a rhowch gymaint o fanylion â phosibl.
Mae copïau ffisegol o'r ddogfen ymgynghori a'r holiadur ar gael ar gais. Mae copïau print mawr hefyd ar gael.
Gellir anfon ymholiadau i harmonisation@statistics.gov.uk, neu drwy'r post i:
ONS Consultations Team
Post Room
Office for National Statistics
Segensworth Road
Fareham
PO15 5RR
Gallwch chi hefyd ffonio gwasanaethau cwsmeriaid y SYG ar 01329 444 972.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am y safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd yn fwy cyffredinol, cysylltwch â thîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn harmonisation@statistics.gov.uk.
Rhagor o fanylion am Gysoni
I ddefnyddwyr a hoffai gael rhagor o fanylion am y safon wedi'i chysoni ar gyfer ethnigrwydd, neu wybodaeth am unrhyw un o'n safonau eraill, byddem yn awgrymu eich bod yn edrych ar ein tudalennau gwe presennol ar gysoni.
Cyfrinachedd a diogelu data
Mae angen eich enw a'ch cyfeiriad e-bost ar y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) er mwyn derbyn eich ymateb. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â'ch ymateb i'r ymgynghoriad, gyda'ch caniatâd. Rydym yn ceisio bod mor agored â phosibl o ran ein proses gwneud penderfyniadau. Caiff yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad eu cyhoeddi. Caiff enwau sefydliadau sydd wedi ymateb eu cynnwys ynghyd â'u hymateb, a phan fydd unigolion yn rhoi caniatâd i'r SYG gyhoeddi eu henwau ar gyfer ymateb unigol, caiff yr enwau hyn eu cynnwys hefyd. Ni fyddwn yn cyhoeddi manylion cyswllt personol, fel cyfeiriadau e-bost.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd. Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cael ei gynnal yn unol ag egwyddorion ymgynghori'r llywodraeth. Os oes gennych unrhyw gwynion am y ffordd y mae'r ymgynghoriad hwn wedi cael ei gynnal, e-bostiwch: harmonisation@statistics.gov.uk.
Rhannwch eich safbwyntiau
Cynulleidfaoedd
- Cymraeg
Diddordebau
- Cymraeg
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook